DANCING THE LANDSCAPE

Lleoliad: Theatr Gwaun
Dyddiad: Dydd Gwener Medi 20fed 
Amser: 8:00yh

Wedi’i blethu’n ddi-dor i Orymdaith Llusernau Theatr Byd Bychan ar gyfer y llwybrau celf newydd ar gyfer prosiect Abergwaun ac Wdig, Art Afoot / Celf ar Droed, mae lansiad ein gŵyl yn parhau o Sgwâr Abergwaun wrth i Joon Dance ein harwain lawr i Theatr Gwaun i berfformio eu darn dawns safle-benodol , gan droi eich sylw at y gofodau a geir ynddynt, tra’n tynnu oddi ar ysbrydoliaeth y byd naturiol o’n cwmpas.

Bydd Joon Dance yn defnyddio eu thema am y flwyddyn, ‘Outside In’ ac yn gwahodd ein tirwedd hardd o’n cwmpas i’r theatr. Trwy ddefnyddio rhannau traddodiadol ac anhraddodiadol y theatr ar gyfer perfformiad bydd Joon Dance yn datgelu potensial creadigol yr adeilad cyfan. Mae’r darn yn croesawu dawns a chymuned i ddathlu’r gofod hyfryd yn y theatr ac o’i chwmpas.

LleoliadDyddiadAmser:
Theatr GwaunDydd Gwener Medi 20fed8:00yh