|

Celfyddyd Cerdd: Brandio Cenedl y Cymry

Ar Ymyl y Tir 2023 On Land’s Edge

Lleoliad: Peppers, West Street

Ymunwch â ni nos Sul, Mai 28ain am 7:30yh ar gyfer cyflwyniad difyr gan Peter Lord a Rhian Davies, am eu cyfrol newydd The Art of Music: Branding the Welsh Nation. Gan ddilyn y cyflwyniad bydd cyfle i drafod gyda’r awduron, a llofnodi llyfrau.

Bydd y drysau ar agor am 6:30 ar gyfer diodydd yn Peppers Bar. Mae tocynnau ar gael drwy Swyddfa Docynnau Theatr Gwaun, ac ar-lein yn theatrgwaun.com – £10.

Yn nrama radio Dylan Thomas Under Milk Wood, mae’r Parch Eli Jenkins yn clodfori canu Polly Garter gyda’r geiriau ‘Molwch yr Arglwydd! Rydym yn genedl gerddorol.’ Ers canrifoedd, mae diwylliant gweledol wedi chwarae rôl allweddol yn y broses o greu a lledaenu’r fytholeg o gerddoroldeb Cymreig. Yn eu cyhoeddiad newydd, The Art of Music: Branding the Welsh Nation, mae’r hanesydd celf Peter Lord a’r hanesydd cerdd Rhian Davies yn disgrifio hanes 500 mlynedd o bortreadu cerddoriaeth a cherddorion Cymreig yng nghyd-destun esblygiad hunanddelwedd y Cymry a dylanwad y cysyniad ar ganfyddiadau o Gymreictod ledled y byd.

Swyddi Tebyg