Adwaith – Live at TG, supported by Lafant

Lleoliad: Theatr Gwaun

Dyddiad: Sadwrn Medi 13eg 

Amser: 7:30yh

Ar Ymyl y Tir 2025 On Land’s Edge – Pre-festival Gig

Yn llawn bwrlwm ers dychwelyd o’u ‘Taith Solas’, mae Adwaith yn camu i’r llwyfan yn Theatr Gwaun ar Fedi 13eg ar gyfer ein prif gig ‘cyn Gŵyl’, gyda chefnogaeth band ifanc o Sir Benfro – Lafant.

Sefydlwyd Adwaith yn nhref Caerfyrddin. Amgylchynwyd yr aelodau gan draddodiad cyfoethog indie-roc Cymraeg, a sîn glos o fandiau a fynychai eu hoff leoliad cerddorol, Y Parrot. Wedi’u hysbrydoli gan linach y bandiau arbrofol a ddeilliodd o Gymru yn yr 80au – Datblygu, Traddodiad Ofnus a Fflaps i enwi tri grŵp a oedd yn arwain cerddoriaeth roc Cymraeg ton newydd ar y pryd – dewisodd Adwaith eu hefelychu wrth fod yr un mor ddigyfaddawd yn eu gweledigaeth eu hunain. Pan aeth Hollie Singer, Gwenllian Anthony a Heledd Owen ati i sefydlu eu band eu hunain yn 2015, dylanwadwyd arnynt gan berfformwyr mwy newydd y gwelsant yn chwarae mewn lleoliadau annibynnol a gwyliau cerdd Cymreig, lle buont yn dyst i don newydd arall o gerddorion yn defnyddio’r Gymraeg fel offeryn cerdd cyffrous.

Mae tyfu fyny ar ymyl daearyddol pethau wedi rhoi brys unigryw i sain Lafant’s Mae’r triawd o lannau Môr Iwerddon yng ngogledd Sir Benfro yn cymryd ysbydoliaeth o fandiau British Invasion y 60au a Surf Rock Americanaidd, ond hefyd o swagger Britpop ac ing Grunge. Mae eu rhyngchwarae tynn yn sail i straeon am gariad a chwant, am ffolineb ieuenctid, cenfigen a llawenydd, wedi’u canu â didwylledd sy’n nodweddiadol o’r sawl a fagwyd ym mhen draw nunlle.

LleoliadDyddiadAmser:
Theatr GwaunSadwrn Medi 13eg7:30yh